Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
2 Rhagfyr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6687
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Datganiad y Llywydd
Dywedodd y Llywydd wrth yr Aelodau ei bod wedi cael dau gais am ddadl frys ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd, a bod y Llywodraeth, yn y cyfamser, wedi cyflwyno cynnig ar gyfer dadl dydd Mawrth nesaf ar yr un mater. Dywedodd y Llywydd ei bod yn disgwyl y bydd y cynnig yn rhoi cyfle i’r Senedd gael pleidlais ystyrlon ar y cynnig ac unrhyw welliannau a gyflwynir, i’r bleidlais honno fod yn ddylanwadol o ran parhad y rheoliadau ai peidio. Am y rheswm hwnnw, roedd y Llywydd wedi penderfynu peidio â galw’r naill Aelod na’r llall i gynnig dadl frys i’w chynnal heddiw.
Yna, galwodd y Llywydd ar Andrew RT Davies a Sian Gwenllian i wneud sylwadau ar gyfer y cofnod.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.34
Gofynnwyd cwestiynau 1-2 a 4-9. Ni ofynnwyd cwestiwn 3. Cafodd cwestiynau 6 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 10 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Dechreuodd yr eitem am 14.28
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2 ac 8 gan Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.18
I Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau'r toriadau i gyllid amaethyddol Cymru a gyhoeddwyd yn adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ar 25 Tachwedd 2020?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.30
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am – gwaith y cydlynwyr ardal leol yn Abertawe yn ystod y pandemig
Gwnaeth Ann Jones ddatganiad am - Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau – ‘Nid yw pob anabledd yn weladwy’.
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad – Adroddiad 02-20
Dechreuodd yr eitem am 15.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7493 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, Adroddiad 02-20, a osodwyd gerbron y Senedd ar 25 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9
2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
9 |
1 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.38 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol
Dechreuodd yr eitem am 15.46
NDM7491 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Effaith argyfwng COVID-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Medi 2020.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 16.19
NDM7494 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad: Datgarboneiddio trafnidiaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Gorffennaf 2020.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 16.58 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
8 Dadl Plaid Cymru – Y sector bwyd
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7495 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd y sector bwyd i ystod eang o agendâu polisi yng Nghymru, gan gynnwys yr amgylchedd, iechyd, yr economi a thlodi;
2. Yn gresynu at y diffyg aliniad i ddarparu polisi bwyd cenedlaethol cydlynol o fewn strategaethau a chynlluniau gweithredu bwyd Llywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf;
3. Yn cydnabod bod pandemig COVID-19 wedi amlygu gwendidau ein system fwyd bresennol.
4. Yn canmol y rôl y mae ffermwyr a chynhyrchwyr Cymru yn ei chwarae yn y broses o gadw ein silffoedd wedi stocio.
5. Yn deall bod argyfyngau'r hinsawdd, natur a bioamrywiaeth yn cynyddu'r tebygolrwydd o dywydd eithafol a fydd yn effeithio'n sylweddol ar y system fwyd fyd-eang.
6. Yn nodi bod 14 y cant o deuluoedd â phlant yn y DU wedi profi ansicrwydd bwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020, a bod Ymddiriedolaeth Trussell wedi dosbarthu 70,393 o barseli bwyd brys yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) symud tuag at ddull mwy cydlynol o ymdrin â pholisi bwyd yng Nghymru drwy ddod â chomisiwn system fwyd traws-sector at ei gilydd a rhoi iddo’r dasg o ddatblygu cynllun i ddarparu system fwyd sy'n addas i genedlaethau'r dyfodol;
b) sicrhau bod systemau bwyd yn gallu gwrthsefyll ffactorau allanol yn y tymor hir, fel yr argyfwng hinsawdd;
c) datblygu gallu prosesu lleol ledled Cymru;
d) cynyddu faint o fwyd a diod o Gymru a gaiff ei gaffael drwy wasanaethau cyhoeddus.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
2 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.
2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r pum ffordd o weithio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;
b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;
c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;
d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
21 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod mynediad at fwyd a gwarchod yr amgylchedd yn cael ei gyflawni drwy wella sgiliau, codi incwm a galluogi gweithredu ar y cyd ar lawr gwlad rhwng cymunedau, busnesau a chyrff cyhoeddus.
2. Yn croesawu'r adroddiad gan yr Athrofa Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cytuno y dylai’r mecanweithiau newydd ar gyfer seilwaith a chyflenwi gael eu llywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r pum ffordd o weithio.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i ddod â ffermwyr, busnesau bwyd, cyrff cyhoeddus a chymdeithas sifil at ei gilydd i weithio tuag at weledigaeth ar y cyd ar gyfer system fwyd sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol;
b) i ddisodli system o daliad sylfaenol ar gyfer cymhorthdal fferm i gyflawni canlyniadau amgylcheddol yn ogystal â bwyd o safon uchel;
c) i hyrwyddo gweithio teg ac arloesi yn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i greu mwy o swyddi sy’n cael eu talu’n dda yn yr economi sylfaenol;
d) i gefnogi prosiectau tyfu bwyd cymunedol ac ail-ddefnyddio bwyd ym mhob cymuned yng Nghymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
11 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
9 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.00 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
Crynodeb o Bleidleisiau 02.12.20
10 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM7492 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Bywyd gwyllt eiconig Cymru: trafferthion gwiwerod coch Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020
Daeth y cyfarfod i ben am 18.28
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020